Anatole France

Llenor o Ffrainc yn yr iaith Ffrangeg oedd Anatole France (Jacques-Anatole-François Thibault; 16 Ebrill 184412 Hydref 1924) sydd yn nodedig am ei nofelau, dramâu, a beirniadaeth lenyddol sydd yn mynegi sgeptigiaeth, eironi, ac hynawsedd deallusol. Dyfarnwyd iddo Wobr Lenyddol Nobel ym 1921 "i gydnabod ei orchestion llenyddol penigamp, a nodweddir gan urddas eu harddull, cydymdeimlad dwfn o'r ddynolryw, graslonrwydd, ac anian wir Ffrengig".

Ganed ef ym Mharis yn fab i werthwr llyfrau. Yn ei ieuenctid ymroddai ei hun i lenydda, a dylanwadwyd ar ei farddoniaeth gynnar gan y Parnasiaid. Trodd at ryddiaith ffuglennol, gan fynegi sgeptigiaeth ideolegol yn ei nofelau cynnar, gan gynnwys ''Le Crime de Sylvestre Bonnard'' (1881), ''La Rôtisserie de la Reine Pédauque'' (1893), a ''Les Opinions de Jérome Coignard'' (1893). Arbrofodd hefyd â nofelau rhamantus, ''Thaïs'' (1890) a ''Le Lys rouge'' (1894). Mae'r cylch ''L'Histoire contemporaine'' (1897–1901) yn ymwneud â gwleidyddiaeth ac achos Dreyfus. Mae ei nofelau diweddarach yn ymdrin â phynciau cymdeithasol. Cofleidiodd gomiwnyddiaeth tuag at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Saint-Cyr-sur-Loire, ger Tours, yn 80 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Anatole France', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Anatole France
Cyhoeddwyd 1943
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
gan Anatole France
Cyhoeddwyd 1965
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường CĐ Kỹ Thuật Cao Thắng