Archimedes

Mathemategydd, seryddwr a pheiriannydd o'r Hen Roeg oedd Archimedes (c.287 CC - 202 CC). Ganwyd yn Siracusa, dinas Roegaidd ar arfordir dwyreiniol ynys Sisili.

Roedd ymhlith yr enwocaf o fathemategwyr yr Henfyd ac un o'r ymenyddol rymusaf a fu erioed. Mae'n cael ei gofio yn y traddodiad poblogaidd am ddefnyddio peiriannau gwrth-warchae yn erbyn llynges y Rhufeiniaid (Crafanc Archimedes), am y sgriwiau codi dŵr sy'n dwyn ei enw, ac am weiddi ''Eureka!'' yn y baddon pan ddarganfu gyfrinach y grym sy'n peri i gorff arnofio ar wyneb dŵr. Dywedir iddo gael ei ladd gan filwyr Rhufeinig yn gwarchae Siracusa - roedd o'n canolbwyntio cymaint ar weithio allan rhyw broblem fathemategol yn ei ben fel na sylwodd ar yr hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas.

Ymddengys iddo ymweld â'r Aifft ac astudio yn Alecsandria, prifddinas dysg y cyfnod. Mae ei bwysigrwydd yn hanes mathemateg yn gorffwys ar ei ddarganfyddiadau o fformiwlâu am faint a chyfaint sfferau, silindrau, parabolau a ffigyrau gwastad a solet eraill, gwaith a ragflaenodd ddarganfyddiadau yn yr un meysydd yn Ewrop yn yr 17g. Sefydlodd yn ogystal wyddor hydrostateg. Yn anffodus mae ei waith seryddol ar goll ers canrifoedd ac rydym yn dibynnu ar gyfieithiadau o'r Roeg i'r Arabeg am nifer o'i weithiau eraill. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Archimedes.', amser ymholiad: 0.09e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Archimedes.
Cyhoeddwyd 1912
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
2
gan Archimedes, Netz, Reviel
Cyhoeddwyd 2013
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawn
3
gan Archimedes L. A Patty
Cyhoeddwyd 2001
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
4
gan Archimedes L.A.Patti
Cyhoeddwyd 1995
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Lê Vũ Hùng, Trường Đại học Đồng Tháp
5
gan Patti, Archimedes L. A.
Cyhoeddwyd 2008
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
6
gan Patti, Archimedes L.A
Cyhoeddwyd 1995
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Lê Vũ Hùng, Trường Đại học Đồng Tháp
7
gan Patti, Archimedes L. A.
Cyhoeddwyd 2001
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt