Tim Baker

Cyfarwyddwr theatr a dramodydd a aned yn Birmingham yw Timothy Rossiter Baker neu Tim Baker (ganwyd Mai 1953).[https://find-and-update.company-information.service.gov.uk/officers/V2y57YEEAQ4nPwYWDKxLUwORIAA/appointments] Un o sefydlwyr Theatr Gorllewin Morgannwg a bu'n gyfarwyddwr preswyl yn Theatr Clwyd ers 1997.

Mae o wedi cyfarwyddo i nifer o gwmnïau theatr ar draws y byd gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Frec a Frec (Catalonia); Theatr Genedlaethol Siapan; Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd; Mountview Academy of Dramatic Arts; Lewis and Clark Summer Institute (Portland, Oregon).

Cafodd ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinych 2013.

Yn 2014, cafodd yr anrhydedd o fod yn Gymrawd Mygedol o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Tim fu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru am 4 blynedd.

Ennillodd nifer o wobrau theatr Prydeinig am ei waith gan gynnwys ''To Kill a Mockingbird'' (Manchester Evening News Cynhyrchiad Teithiol Gorau Best 2002); Liverpool Daily Post Cynhyrchiad Rhanbarthol Gorau: ''A View From the Bridge'' (2003); Barclays Stage Partners Award: ''To Kill a Mockingbird'' (2001); Barclays Stage Partners Award: ''Flora's War''' (2000); Liverpool Daily Post Gwobr am y Cynyhyrchiad Gorau ''Rape of the Fair Country'' (1997)

Derbyniodd ganmoliaeth gan adolygydd Theatr Y Cymro, Paul Griffiths yn 2010 - "Dwi di bod yn ffan mawr o waith Tim [Baker] ers blynyddoedd, o ddyddiau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg, hyd ei gyfnod presennol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd pob cynhyrchiad wastad yn taro deuddeg, yn llawn emosiwn, gydag ensemble cryf o actorion profiadol yn mynd â ni ar daith, er gwaethaf eu hamgylchiadau. Yn wir, af i gyn belled a dweud fod enw Tim yn uchel ar fy rhestr o gyfarwyddwyr posib i arwain y Theatr Genedlaethol." Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Baker, Tim', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Baker, Tim
Cyhoeddwyd 2020
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawn
Cael y testun llawn
2
gan Baker, Tim
Cyhoeddwyd 2019
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawn