John Ball
Offeiriad o Loegr ac un o arweinwyr Gwrthryfel y Werin oedd John Ball (bu farw 15 Gorffennaf 1381).Cafodd ei eni yn St Albans, Swydd Hertford. Teithiodd i Efrog a Colchester fel pregethwr. Cafodd ei ysgymuno tua'r flwyddyn 1366 am ei bregethau tanbaid oedd yn dadlau dros gymdeithas heb ddosbarthau, ond parhaodd i bregethu mewn marchnadau a mannau awyr agored. Wedi 1376, cafodd ei garcharu nifer o weithiau.
Ar ddechrau Gwrthryfel y Werin, ym Mehefin 1381, cafodd ei achub o garchar Maidstone yng Nghaint gan wrthryfelwyr a theithiodd gydant i Lundain. Yno, cynhyrfodd torf yn Blackheath gyda'r testun ''When Adam dalf and Eve span, Who was then a gentleman?'', hynny yw, yn oes Adda ac Efa, pwy oedd yr uchelwyr?
Yn sgil methiant y gwrthryfel, cafodd Ball ei roi ar brawf a'i grogi yn St Albans. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Dacorogna, Bernard, Fusco, Nicola, Müller, Stefan, Sverak, Vladimir, Ball, John, Marcellini, Paolo
Cyhoeddwyd 2020
Cyhoeddwyd 2020
Thư viện lưu trữ:
Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawnCael y testun llawn