James Callaghan

| dateformat = dmy}}

:''James Callaghan arall oedd yr AS am sedd Heywood a Middleton.''

Leonard James Callaghan, Arglwydd Callaghan o Gaerdydd, KG, PC (27 Mawrth 191226 Mawrth 2005), oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mewn llywodraeth Lafur rhwng 1976 a 1979. Adnabyddid ef wrth ei ail enw, James, wedi'i fyrhau i Jim yn aml, Llysenw arno yn aml oedd "Sunny Jim" neu "Big Jim". Ef yw'r unig berson sydd wedi llenwi pedair swydd bwysicaf y llywodraeth, sef Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Tramor a Phrif Weinidog; yn wir, efe yw'r unig berson sydd wedi llenwi y tair swydd gyntaf ar y rhestr yna. Ar 14 Chwefror 2005, rhagorodd ef Harold Macmillan fel y Prif Weinidog Prydeinig ag oedd wedi byw yn hiraf, sef i'r oedran o 92 mlynedd, 10 mis ac 18 dydd.

Canghellor y Trysorlys oedd Callaghan rhwng 1964 a 1967: cyfnod cythryblus i'r economi Brydeinig. Roedd diffyg balans taliadau enfawr ac roedd yr ariannwyr stoc yn ymosos ar y bunt sterling. Yn Nhachwedd 1967, gorfodwyd y Llywodraeth i ddibrisio'r bunt. Cynigodd Callaghan ymddiswyddo, ond darbwyllwyd ef i gyfnewid swydd â Roy Jenkins, ac Ysgrifennydd Cartref fu Callaghan rhwng 1967 a 1970. Yn y swydd honno ef anfonodd y Fyddin Brydeinig i Ogledd Iwerddon ar ôl derbyn cais oddi wrth Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad Cyffredinol ym Mawrth 1974 daeth Callaghan yn ôl i'r Cabinet fel Ysgrifennydd Tramor, gan gynnwys y cyfrifoldeb o ailgytundebu aelodaeth Prydain yn y Farchnad Gyffredin. Cefnogodd y bleidlais "Ie" yn refferendwm 1975 dros gadw Prydain yn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC). Pan ymddiswyddodd Harold Wilson ym 1976, etholwyd Callaghan fel arweinydd Llafur gan yr aelodau seneddol. Roedd ei unig dymor fel Brif Weinidog yn anodd gan nad oedd gan Lafur fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd rhaid iddo drafod gyda'r pleidiau bach megis yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon a Phlaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng Llafur a'r Blaid Ryddfrydol. Er fod Callaghan wedi bod yn gefnogwr i'r undebau, roeddent yn gwneud pethau anodd iddo ac roedd y cytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr yn fregus. Yn ystod gaeaf 1978 a dechrau 1979, cafwyd nifer o streiciau difrifol. Ar 28 Mawrth 1979 cafwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y senedd. Fe gollwyd y bleidlais, a bu rhaid iddo alw etholiad cyffredinol. Yn yr etholiad hwnnw, trechwyd Llywodraeth Callaghan yn drwm gan y Blaid Geidwadol a daeth Margaret Thatcher yn brif weinidog. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Callaghan, James, 1964-', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
1