Henry Steele Commager
Hanesydd ac academydd o'r Unol Daleithiau oedd Henry Steele Commager (25 Hydref 1902 – 2 Mawrth 1998) sy'n nodedig am ei gyhoeddiadau niferus a'i daliadau rhyddfrydol ynghylch hanes yr Unol Daleithiau.Ganwyd yn Pittsburgh, Pennsylvania, a chafodd ei fagu gan ei dad-cu yn Toledo, Ohio, ac yn Chicago, Illinois. Enillodd ei radd baglor (1923), ei radd meistr (1924), a'i ddoethuriaeth (1928) mewn hanes o Brifysgol Chicago. Treuliodd hefyd flwyddyn yn Nenmarc, gwlad ei gyndeidiau, yn astudio hanes llyngesol ym Mhrifysgol Copenhagen.
Addysgodd hanes ym Mhrifysgol Efrog Newydd o 1929 i 1938, ym Mhrifysgol Columbia o 1938 i 1956, ac yng Ngholeg Amherst o 1956 i 1992 (athro hanes Americanaidd o 1956 i 1972, a darlithydd Simpson o 1972 i 1992). Daeth i sylw fel awdur gyda'r gwerslyfr ''The Growth of the American Republic'' (1930), a gydysgrifennwyd gyda'r hanesydd Samuel Eliot Morison o Brifysgol Harvard. Ymhlith ei lyfrau eraill mae ''The American Mind'' (1951), ''Jefferson, Nationalism and the Enlightenment'' (1974), a ''The Empire of Reason'' (1977).
Roedd Commager yn edmygwr brwd o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac yn ei ystyried yn sylfaen berffaith ar gyfer cyfundrefn wleidyddol a chyfraith resymol. Ar sawl achos bu'n siarad yn gyhoeddus yn erbyn gweithgareddau gwleidyddol a dybid ganddo yn gamau ar y gyfraith gyfansoddiadol. Yn 1947, adeg yr Ail Ddychryn Coch a McCarthyaeth, cyhoeddodd erthygl yng nghylchgrawn ''Harper's'' yn lladd ar lwon teyrngarwch. Yn 1966, dadleuodd bod ymyrraeth gan luoedd Americanaidd yn Rhyfel Fietnam, ar gais yr Arlywydd Lyndon B. Johnson, yn tresmasu ar uchelfraint y Gyngres i gyhoeddi rhyfel. Cafodd ei feirniadu gan rai am arddel eithriadolaeth Americanaidd ac am esgeuluso rhan yr eglwys, menywod, Americanwyr Duon, Americanwyr Brodorol, a'r dosbarth gweithiol yn hanes yr Unol Daleithiau.
Bu farw yn ei gartref yn Amherst, Massachusetts, yn 95 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Henry Steele Commager
Cyhoeddwyd 1968
Cyhoeddwyd 1968
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
gan Henry Steele Commager
Cyhoeddwyd 1951
Cyhoeddwyd 1951
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ