Otto Jespersen
Ieithydd Daneg ac arbennigwr ar yr iaith Saesneg oedd Otto Jespersen (16 Gorffennaf 1860 - 30 Ebrill 1943). Fe'i ganed yn Randers yng ngogledd Jutland, a mynychodd Brifysgol Copenhagen, lle astudiodd Saesneg, Ffrangeg a Lladin. Treuliodd adeg yn astudio yn Rhydychen hefyd. Athro Saesneg oedd ef ym Mhrifysgol Copenhagen o 1893 tan 1925. Yno sefydlodd y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Roedd ei brif weithiau megis ''Growth and structure of the English language'' (1905) ac ''A modern English grammar on historical principles'' (1909–49), yn ymdrin â strwythur a hanes y Saesneg. Roedd hefyd yn ymddiddori mewn prosiectau i greu ieithoedd rhyngwladol artiffisial megis Ido a Novial. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Jespersen, Otto
Cyhoeddwyd 1988
Cyhoeddwyd 1988
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ