Daniel Keyes
Awdur o'r Unol Daleithiau yn yr iaith Saesneg oedd Daniel Keyes (9 Awst 1927 – 15 Mehefin 2014) sydd yn nodedig am ei nofel ffuglen wyddonol ''Flowers for Algernon'' (1966). Mae nifer o'i weithiau yn ymwneud â themâu seicolegol, yn enwedig hunaniaethau'r bersonoliaeth hollt.Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Iddewig. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Efrog Newydd cyn iddo ymaelodi â Gwasanaeth Arforol yr Unol Daleithiau yn 17 oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor mewn seicoleg o Goleg Brooklyn ym 1950.
Cafodd swydd yn is-olygydd ffuglen gyda'r cwmni cyhoeddi Stadium Publications, a oedd yn arbenigo mewn cylchgronau rhad (''pulp'') megis ''Marvel Science Stories'', ac yno ysgrifennodd Keyes ar gyfer ''Atlas Comics''. Gweithiodd hefyd yn athro Saesneg mewn uwchysgolion yn Brooklyn, a chyfrannai sgriptiau comics dan y ffugenwau Kris Daniels a AD Locke ar gyfer y cylchgronau ''Psychoanalysis'', ''Shock Illustrated'', a ''Confessions Illustrated''.
Cyhoeddwyd ei waith enwocaf, ''Flowers for Algernon'', yn gyntaf ar ffurf stori fer yn ''The Magazine of Fantasy and Science Fiction'' ym 1959, ac enillodd Wobr Hugo am y stori fer orau. Addasodd Keyes ei stori yn nofel gyfan a gyhoeddwyd ym 1966. Enillodd Wobr Nebula am y nofel orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm o'r enw ''Charly'' (1968) yn serennu Cliff Robertson, a dderbyniodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei bortread o'r prif gymeriad.
Mae ei ail nofel, ''The Touch'' (1968), yn ymwneud â'r straen seicolegol sydd yn effeithio ar oroeswyr damwain niwclear, a'i drydedd, ''The Fifth Sally'' (1980), yn adrodd stori merch sydd yn dioddef anhwylder aml-bersonoliaeth. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''The Minds of Billy Milligan'' (1981) ac ''Unveiling Claudia'' (1986), y ddwy yn seiliedig ar achosion go iawn. Cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Algernon, Charlie and I'', yn 2000, a'i nofel olaf, ''The Asylum Prophecies'', yn 2009.
Dechreuodd addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Daleithiol Wayne, Detroit, Michigan, ym 1962, a fe'i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Ohio, Athens, ym 1966. Cafodd ei ddyrchafu'n athro Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Ohio ym 1972, a bu yno nes iddo ymddeol yn y 1990au. Bu farw yn Boca Raton, Florida, yn 86 oed o ganlyniad i gymhlethdodau o niwmonia. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Keyes, Daniel
Cyhoeddwyd 1975
Cyhoeddwyd 1975
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ