Harper Lee

Nofelydd o'r Unol Daleithiau oedd Nelle Harper Lee (28 Ebrill 192619 Chwefror 2016) a oedd yn adnabyddus am ei nofel ''To Kill a Mockingbird''. Roedd y nofel yn llwyddiant o'r cychwyn, gan ennill Gwobr Pulitzer ac fe ddaeth yn glasur o lenyddiaeth Americanaidd fodern.

Roedd y plot a'r cymeriadau wedi eu seilio yn fras ar ei arsylwadau o'i theulu a'i chymdogion, yn ogystal â digwyddiad yn agos i'w thref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae'r nofel yn ymdrin ac afresymoldeb agwedd oedolion tuag at hil a dosbarth ym Mhellafoedd y De yn ystod y 1930au, drwy lygaid dau blentyn. Roedd y nofel wedi ei ysbrydoli gan yr agweddau hiliol a welodd fel plentyn yn ei chartref o Monroeville. Er mai dim ond un llyfr a gyhoeddodd Lee mewn hanner canrif, fe gwobrwywyd gyda Medal Rhyddid yr Arlywydd am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Derbyniodd Lee nifer o raddau er anrhydedd, ond dewisodd peidio siarad ar bob achlysur. Fe wnaeth Lee gynorthwyo ei ffrind agos Truman Capote gyda'i ymchwil ar gyfer ei lyfr ''In Cold Blood'' (1966). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Lee, Harper', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Lee, Harper
Cyhoeddwyd 1982
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
gan Lee, Harper
Cyhoeddwyd 2013
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Thủ Dầu Một
Cael y testun llawn
3
gan Lee, Harper
Cyhoeddwyd 2015
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
4
gan Lee, Harper
Cyhoeddwyd 2001
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ