Edna O'Brien

| dateformat = dmy}}

Awdures Wyddelig yw '''Edna O'Brien''' (ganwyd 15 Rhagfyr 1930) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, sgriptiwr, bardd, nofelydd a chofiannydd. Disgrifiwyd hi gan Philip Roth fel "y ferch fwyaf dalentog sy'n sgwennu mewn Saesneg heddiw" a bu i gyn-Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Mary Robinson, ddatgan "hi yw un o awduron mwyaf ei chenhedlaeth.

Mae gwaith O'Brien yn aml yn troi o gwmpas teimladau mewnol menywod, a'u problemau mewn perthynas â dynion, a chymdeithas yn gyffredinol. Mae ei nofel gyntaf, ''The Country Girls'', yn aml yn cael ei chydnabod â thorri'r tawelwch ar faterion rhywiol a materion cymdeithasol yn ystod cyfnod gormesol yn Iwerddon yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llyfr ei wahardd, ei losgi a'i wadu o'r pulpud, a gadawodd O'Brien Iwerddon gan droi'n alltud.

Mae O'Brien bellach yn byw yn Llundain. Derbyniodd Wobr PEN Iwerddon yn 2001. Enillodd ''Saints and Sinners'' Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor 2011, gwobr gyfoethocaf y byd am gasgliad o storiau byrion. Cyhoeddodd Faber and Faber ei bywgraffiad, ''Country Girl'', yn 2012. Yn 2015, rhoddwyd y 'Saoi' (math o brifardd) iddi gan y Gymdeithas Wyddelig, Aosdána.

Fe'i ganed yn Tuamgraney, SwyddClare, Iwerddon ar 15 Rhagfyr 1930.

Yn ôl O'Brien, roedd ei mam yn fenyw gref a rheolaethol a ymfudodd am ysbaid i America, a bu'n gweithio fel morwyn yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Gwyddelig-Americanaidd cefnog cyn dychwelyd i Iwerddon i gychwyn teulu a magu ei phlant. O'Brien oedd y plentyn ieuengaf o "deulu crefyddol-gul". O 1941 i 1946 cafodd ei haddysgu gan ''Sisters of Mercy'' - a chyfrannodd hyn at blentyndod lle teimlai ei bod wedi ei "mygu". "Gwrthodais yn erbyn crefydd cul a oedd yn lladd pob ysbryd rhydd" meddai. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'O'Brien, Edna', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan O'Brien, Edna
Cyhoeddwyd 2000
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Sample text
Publisher description
Valid as of Nov. 21, 2002