Sarah Gilbert

| dateformat = dmy}} Mae'r Fonesig Sarah Catherine Gilbert DBE (ganwyd Ebrill 1962) yn frechlynolegydd Prydeinig. Mae hi'n Athro Saïd mewn Brecholeg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn gyd-sylfaenydd y cwmni bio-technegol Vaccitech. Mae Gilbert yn arbenigo mewn datblygu brechlynnau yn erbyn ffliw a phathogenau firaol sy'n dod i'r amlwg. Hi a arweiniodd y gwaith o ddatblygu a phrofi'r brechlyn ffliw cyffredinol, a gafodd dreialon clinigol yn 2011. Ar 1 Ionawr Darllenodd Gilbert ar bost ProMED am bedwar o bobl yn Tsieina sy'n dioddef o niwmonia rhyfedd o achos anhysbys, yn Wuhan, Tsieina. Ar 30 Rhagfyr 2020, cymeradwywyd y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca COVID-19 a gyd-ddatblygodd gyda Grŵp Brechlyn Rhydychen i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd Gilbert ei geni yn Kettering, Lloegr, yn ferch i athrawes a rheolwr swyddfa. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia ac ym Mhrifysgol Hull. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Sarah Gilbert,', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
2