Mikhail Sholokhov

Nofelydd ac awdur straeon byrion Rwsiaidd oedd Mikhail Aleksandrovich Sholokhov (24 Mai [11 Mai yn yr Hen Arddull] 190521 Chwefror 1984) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1965 am "y gallu a gonestrwydd celfydd y mae'n defnyddio yn ei epig am Afon Don i fynegi cyfnod hanesyddol ym mywyd y Rwsiaid".

Ganed yn Veshenskaya yn ardal Cosaciaid Afon Don yn Ymerodraeth Rwsia, bellach yn Oblast Rostov. Ymunodd â'r Fyddin Goch yn 1920 yn ystod Chwyldro Rwsia. Symudodd i Foscfa yn 1922 a chyhoeddodd ei stori fer gyntaf yn 1924. Y flwyddyn honno, dychwelodd i fyw yn ei bentref genedigol, yn y rhanbarth a fu'n ysbrydoliaeth i'w lên am weddill ei oes.

Ei gampwaith ydy'r nofel epig ''Tikhii Don'' (1928–40), portread o frwydrau'r Cosaciaid yn erbyn y Fyddin Goch yn ne Rwsia. Dethlir llwyddiant yr ymgyrch gyfunoli yn nechrau'r 1930au yn ei ail nofel, ''Podnyataya tselina'' (1932–60), gwaith sydd yn nodweddiadol o Realaeth Sosialaidd.

Ymunodd Sholokhov â Phlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd yn 1932, a fe'i penodwyd yn aelod o'r Pwyllgor Canolog yn 1961. Bu'n selog i'r blaid trwy gydol ei oes, a gwobrwywyd iddo urdd yr Arwr Llafur Sosialaidd yn ogystal â Gwobrau Lenin a Stalin. Aeth ar sawl taith i Orllewin Ewrop, ac yn 1959 ymwelodd ag Unol Daleithiau America yng nghwmni Nikita Khrushchev. Bu farw yn Veshenskaya yn 78 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 10 canlyniadau o 10 ar gyfer chwilio 'Sholokhov, Mikhail', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 2004
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 2004
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
3
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 1978
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
4
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 1978
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
5
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 1978
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
6
gan Sholokhov, Mikhail
Cyhoeddwyd 1978
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
7
gan Sholokhov, Mikhail 1905 -
Cyhoeddwyd 1984
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Lê Vũ Hùng, Trường Đại học Đồng Tháp
8
gan Sholokhov, Mikhail 1905 -
Cyhoeddwyd 1984
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Lê Vũ Hùng, Trường Đại học Đồng Tháp
9
gan Sholokhov, Mikhail 1905 -
Cyhoeddwyd 1984
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Lê Vũ Hùng, Trường Đại học Đồng Tháp
10
gan Sholokhov, Mikhail A., 1905-1984.
Cyhoeddwyd 2018
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt