Henryk Sienkiewicz

Nofelydd a newyddiadurwr o Wlad Pwyl oedd Henryk Adam Alexander Pius Sienkiewicz (5 Mai 184615 Tachwedd 1916) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1905. Mae'n nodedig am ei nofelau hanesyddol, yn enwedig ei glasur ''Quo Vadis'' (1896). Ysgrifennai dan y ffugenw Litwos.

Ganed yn Wola Okrzejska, Gwlad Pwyl y Gyngres, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar ystâd fach. Wedi iddynt golli eu harian a'u tir, symudodd y teulu i Warsaw ac yno astudiodd Henryk lenyddiaeth, hanes, ac ieitheg ym Mhrifysgol Warsaw. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau ym 1869 ar bynciau gwyddonol ac yn clodfori Positifiaeth. Gadawodd y brifysgol ym 1871 heb iddo ennill ei radd.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Na marne'', ym 1872 a'i stori fer gyntaf, "Stary sługa", ym 1875. Teithiodd Sienkiewicz i Unol Daleithiau America ym 1876–78, ac ymwelodd â Pharis am gyfnod hir cyn iddo ddychwelyd i Wlad Pwyl. Cyhoeddodd gyfres o straeon byrion llwyddiannus, gan gynnwys "Janko muzykant" (1879), "Latarnik" (1882), a "Bartek zwycięzca" (1882). Sienkiewicz oedd cyd-olygydd y papur newydd dyddiol ''Słowo'' o 1882 i 1887. Nofelau enwocaf Sienkiewicz yw'r triawd am hanes Gwlad Pwyl yn y 17g—''Ogniem i mieczem'' (1884), ''Potop'' (1886), a ''Pan Wołodyjowski'' (1887–88)—a ''Quo Vadis'' (1896) a leolir yn Rhufain hynafol yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero.

Ym 1900, i nodi 30 mlynedd ers cychwyn ar ei yrfa lenyddol, gwobrwywyd iddo ystâd Oblęgorek, ger Kielce, ac yno fe drigai nes 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd Sienkiewicz i'r Swistir, a chyda'r pianydd a chyfansoddwr Ignacy Jan Paderewski (a fyddai'n Brif Weinidog ei wlad wedi diwedd y rhyfel) ymgyrchai dros annibyniaeth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Vevey, Vaud, y Swistir, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Sienkiewicz, Henryk', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 1970
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 2016
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Thủ Dầu Một
Cael y testun llawn
3
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 2015
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Thủ Dầu Một
Cael y testun llawn
4
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 2016
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Thủ Dầu Một
Cael y testun llawn
5
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 2020
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Thủ Dầu Một
Cael y testun llawn
6
gan Sienkiewicz, Henryk
Cyhoeddwyd 2014
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Nam Cần Thơ