James Bulger
Plentyn dyflwydd oed o Kirkby, ger Lerpwl, a gafodd ei herwgipio, ei arteithio ac yna ei lofruddio oedd James Bulger (16 Mawrth 1990 – 12 Chwefror 1993). Dau fachgen 10 mlwydd oed, Robert Thompson a Jon Venables, wnaeth ei ladd. Tra oedd Bulger â'i fam Denise mewn canolfan siopa, cafodd ei gymryd gan y ddau fachgen a cherddodd gyda nhw am 2.5 filltir. Gwnaethont ei fwrw, rhoi paent yn ei lygaid, gosod batrïau yn ei geg, a thorri ei benglog mewn 10 man. Gosododd Thompson a Venables corff Bulger ar drac rheilffordd mewn ymdrech i wneud i'w farwolaeth edrych fel damwain. Ar ôl hynny torrodd trên ei gorff yn ddwy rhan. Roedd gan ei gorff cymaint o anafiadau, nid oedd modd i batholegwyr ddweud pa anaf yn union a achosodd ei farwolaeth. Gwelodd nifer o bobl eraill y ddau fachgen yn cerdded â Bulger, ond ni wnaethont eu stopio.Ar ddechrau'r achos, nid oedd yr heddlu yn disgwyl i'r troseddwyr fod mor ifanc â Thompson a Venables, roeddent yn chwilio am ddrwgdybwyr rhwng 12 a 14 oed. Arddangoswyd llun CCTV o'r bechgyn yn arwain Bulger o'r ganolfan siopa yn y cyfryngau, a llwyddodd rhywun i'w hadnabod a chysylltu â'r heddlu. Arestiwyd Thompson a Venables, a chyhuddodd y ddau fachgen y llall o ladd Bulger. Cawsont eu rhoi ar brawf a'u dedfrydu i 8 mlynedd o garchar. Ceisiodd yr Ysgrifennydd Cartref Michael Howard ymestyn y ddedfryd i 15 mlynedd, ond dyfarnodd y Llys Apêl nad oedd ganddo'r grym i wneud hynnny. Rhyddhawyd y llofruddion yn 2001, gan dderbyn enwau newydd, mewn modd tebyg i ddiogelu tystion. Ym Mawrth 2010 bu rhaid i Jon Venables dychwelyd i'r carchar am dorri amodau ei ryddhad.
Mae mam James Bulger, Denise Fergus, wedi datgan llawer o weithiau ei bod yn dymuno i'r llofruddion aros yn y carchar. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Thompson, Robert
Cyhoeddwyd 2004
Cyhoeddwyd 2004
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
2
3
gan Thompson, Robert Grainger Ker
Cyhoeddwyd 1970
Cyhoeddwyd 1970
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ
4
5
6
gan Uzzo, Stephen Miles, Graves, Sherryl Browne, Shay, Erin, Harford, Marisa, Thompson, Robert
Cyhoeddwyd 2020
Cyhoeddwyd 2020
Thư viện lưu trữ:
Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawn