Rebecca West

| dateformat = dmy}}

Ffeminist o Loegr oedd Rebecca West (21 Rhagfyr 1892 - 15 Mawrth 1983) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau a swffragét. Cyflwynwyd iddi Fedal Benson am ei gwaith.

Ysgrifennai mewn sawl ''genre'' gan gynnwys adolygu llyfrau i'r ''The Times'', y ''New York Herald Tribune'', y ''Sunday Telegraph'', a'r ''The New Republic''. Roedd hefyd yn ohebydd i ''The Bookman''. Mae ei phrif weithiau'n cynnwys: ''Black Lamb and Grey Falcon'' (1941), ar hanes a diwylliant Iwgoslafia; ''A Train of Powder'' (1955), disgrifiad ganddi o Achosion Llys Nuremberg, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn ''The New Yorker''; ''The Meaning of Treason'', a newidiwyd i ''The New Meaning of Treason'', sef astudiaeth o achos llys y ffasgydd Seisnig William Joyce ac eraill; ''The Return of the Soldier'', nofel fodern am y Rhyfel Byd Cyntaf; a'r "Aubrey trilogy" o'r nofelau hunangofiannol ''The Fountain Overflows'', ''This Real Night'', a ''Cousin Rosamund''.

Disgrifiwyd hi yn 1947 yn ''Time'' "yn bendant, dyma awdur benywaidd gorau'r byd".. Defnyddiai'r ffugenw "Rebecca West" o enw arwres y nofel ''Rosmersholm'' gan Henrik Ibsen.

Fe'i ganed yn Llundain ar 21 Rhagfyr 1892 a bu farw yn Llundain ac fe'i claddwyd ym Mynwent Brookwood. Roedd Anthony West yn blentyn iddi. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'West, Rebecca', amser ymholiad: 0.07e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan West, Rebecca
Cyhoeddwyd 1964
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ