Richard Wright

Llenor Americanaidd oedd Richard Wright (4 Medi 190828 Tachwedd 1960) sydd yn nodedig am ysgrifennu dau o glasuron llenyddiaeth yr Americanwyr Affricanaidd: ei nofel ''Native Son'' (1940) a'i hunangofiant ''Black Boy'' (1945).

Ganed ef ar blanhigfa ger Natchez yn nhalaith Mississippi, yn ne Unol Daleithiau America, a chafodd ei fagu mewn tlodi a chan pherthnasau gwahanol. Gweithiodd mewn sawl swydd wahanol cyn ymuno â'r Ymfudiad Mawr i'r gogledd, yn gyntaf i Memphis, Tennessee, ac yna i Chicago, Illinois. Cafodd waith ysgrifennu gyda'r Prosiect Llenorion Ffederal (FWP), un o raglenni'r Fargen Newydd. Ymaelododd â Phlaid Gomiwnyddol yr Unol Daleithiau ym 1932, a symudodd i Ddinas Efrog Newydd ym 1937. Ymsefydlodd yn ardal Harlem, ac yno gweithiodd yn olygydd lleol y ''Communist Daily Worker''.

Derbyniodd glod am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, ''Uncle Tom's Children'' (1938). Cafodd ei nofel enwocaf, ''Native Son'', ei haddasu'n ddrama yn theatr Broadway gan Orson Welles ym 1941 ac yn ffilm yn yr Ariannin ym 1951. Gadawodd Wright y Blaid Gomiwnyddol ym 1944, a chyhoeddodd ei hunangofiant o'i ieuenctid, ''Black Boy'', ym 1945. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, symudodd Wright i Baris, Ffrainc, am weddill ei oes. Ystyrir ei lyfr ''The Outsider'' (1953) yn yr esiampl gyntaf o nofel ddirfodol gan Americanwr. Cyhoeddodd hefyd ysgrifau a gweithiau polemig, gan gynnwys y casgliad o ddarlithoedd ''White Man, Listen!'' (1957).

Bu farw ym Mharis yn 52 oed. Cyhoeddwyd sawl gwaith wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y casgliad o straeon byrion ''Eight Men'' (1961) a'r hunangofiant o'i fywyd yng ngogledd yr Unol Daleithiau ''American Hunger'' (1977). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Wright, Richard, 1908-1960.', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Wright, Richard, 1908-1960.
Cyhoeddwyd 1991
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
2
gan Wright, Richard, 1908-1960.
Cyhoeddwyd 1991
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
3
gan Wright, Richard, 1908-1960.
Cyhoeddwyd 1991
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
4
gan Wright, Richard, 1908-1960.
Cyhoeddwyd 1991
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt