Steve Wright

Roedd Stephen Richard Wright MBE (26 Awst 195412 Chwefror 2024) yn droellwr disgiau o Loegr, yn bersonoliaeth radio, ac yn gyflwynydd teledu achlysurol. Cafodd y clod am gyflwyno y fformat 'radio sŵ' i wledydd Prydain gan greu casgliad doniol o bersonoliaethau yn y rhaglen. Cyflwynodd ''Steve Wright in the Afternoon'' am 12 mlynedd ar BBC Radio 1 a 23 mlynedd ar BBC Radio 2, dwy o orsafoedd radio cenedlaethol y BBC.

Parhaodd i gyflwyno ei ''Sunday Love Songs'' ar Radio 2 hyd ei farwolaeth ac, ym mis Hydref 2023, cymerodd yr awenau fel cyflwynydd y sioe siartiau ''Pick of the Pops'' a fu’n rhedeg ers 1955. Ar deledu'r BBC, cyflwynodd ''Home Truths'', ''The Steve Wright People Show'', ''Auntie's TV Favourites'', ''Top of the Pops'' a ''TOTP2''. Enillodd Wright wobrau, gan gynnwys DJ Gorau'r Flwyddyn fel y pleidleisiwyd gan y ''Daily Mirror'' Readers Poll a gan ddarllenwyr ''Smash Hits'' yn 1994. Ym 1998 dyfarnwyd Personoliaeth y Flwyddyn TRIC iddo am ei raglenni radio. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Wright, Steve', amser ymholiad: 0.14e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Malik, Sahil, Sistla, Srini, Wright, Steve
Cyhoeddwyd 2012
Thư viện lưu trữ: Thư viện Trường Đại học Đà Lạt
Cael y testun llawn