Hugh Cudlipp
| dateformat = dmy}}Golygydd ieuengaf erioed Stryd y Fflyd, Llundain a elwir hefyd yn "Frenin y Tabloids" oedd Hugh Cudlipp OBE (28 Awst 1913 – 17 Mai 1998) a aned yn 118 Heol Llysfaen, Caerdydd. Bu'n olygydd y ''Mirror''.
Roedd yn frawd i Reg, golygydd ''News of the World'' a Percy a fu'n olygydd ''Evening Standard''. Gan iddo fod yn flaenllaw ym "Mrwydr y Tabloids", gelwid ef yn "Frenin" arnynt. Erbyn diwedd ei oes, fodd bynnag, poenai am ddirywiad cynnwys papurau'r tabloids.
Gadawodd ysgol fechgyn ''Howard Gardens High School'' (a ailalwyd yn ddiweddarach yn ''Howardian High School'') yn 14 oed gan weithio i nifer o bapurau newydd lleol cyn symud i Fanceinion i weithio ar y ''Manchester Evening Chronicle'' yn 16 oed. Yn 1932, ag yntau'n 19 oed, symudodd i Lundain i weithio fel ''features editor'' ar y ''Sunday Chronicle''. Yn 1935 ymunodd â staff y ''Daily Mirror''. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Cudlipp, Hugh
Cyhoeddwyd 1953
Cyhoeddwyd 1953
Thư viện lưu trữ:
Trung tâm Học liệu Trường Đại học Cần Thơ