Michael McGrath

Roedd Michael Joseph McGrath (24 Mawrth 188228 Chwefror 1961) yn Archesgob Caerdydd rhwng 1940 a 1961. Ganed yn ninas Kilkenny, Iwerddon.

Fe'i haddysgwyd yn ysgol y Brodyr Cristionogol yn Kilkenny ac yn Ngholeg Rockwell, Tipperary ble y cryfhawyd ei ddiddordeb yn yr Wyddeleg. Enillodd radd B.A. yn yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon. Cafodd radd anrhydedd a D.Litt oddi yno yn ddiweddarach. Astudiodd i fynd yn offeiriad, yng Ngholeg San Ioan, Waterford. Ordeinwyd ef ar 12 Gorffennaf 1908 yn esgobaeth babyddol Clifton. Bu'n gurad yn yr eglwys gadeiriol yno ac yn offeiriad plwyf yn Fishponds ac yn eglwys San Nicolas, Bryste.

Ymddeolodd yn 1918 oherwydd iechyd bregus. Cafodd wahoddiad yn 1921 gan yr Esgob Francis Mostyn i weithio yn esgobaeth Mynyw oherwydd ei ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd. Aeth i weithio yn y Fflint ac ym Mangor cyn iddo gael ei benodi yn offeiriad plwyf yn Aberystwyth ac yn bennaeth coleg ddiwynyddiaeth, St Mary's College, yn 1928.

Tra roedd yn Aberyswtyth dilynodd gyrsiau llenyddiaeth Gymraeg yr Athro Thomas Gwynn Jones, yng Ngholeg y Brifysgol.

Penodwyd ef yn Esgob Mynyw yn 1935, gan olynu yr Esgob Vaughan a chysegrwyd ef ar 24 Medi. Penodwyd ef yn Archesgob Caerdydd ar farwolaeth yr Archesgob Mostyn. Bu farw yn Ysbyty Gwenffrewi, Caerdydd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'McGrath, Michael', amser ymholiad: 0.07e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan McGrath, Michael
Cyhoeddwyd 1997
Thư viện lưu trữ: Trung tâm Học liệu Trường Đại học Trà Vinh
2